Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol

 

Dydd Gwener 14 Tachwedd 2014

 

Gwesty Gwledig Oriel, Upper Dinbych Rd, Llanelwy, Sir Ddinbych LL17 0LW

 

Yn bresennol:

                   Roedd 81 o bobl yn bresennol yn y cyfarfod, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol, pobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol a'u gofalwyr a chynrychiolwyr o'r sector gwirfoddol. Roedd aelodau ffurfiol o'r grŵp trawsbleidiol a oedd yn bresennol, neu'n siaradwyr yn cynnwys:

 

Mark Isherwood AC (Cadeirydd) - y Ceidwadwyr Cymreig

Aled Roberts AC - Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Kevin Thomas - Cynghrair Niwrolegol Cymru a Chymdeithas y Clefyd Niwronau Motor

Joseph Carter - Cynghrair Niwrolegol Cymru a Chymdeithas MS Cymru

Urtha Felda - Cynghrair Niwrolegol Cymru a Chymdeithas MS Cymru

Barbara Locke - Cynghrair Niwrolegol Cymru a Parkinson's UK

David Murray - Ymddiriedolaeth Gwellhad i'r Clefyd Parkinson

Yr Athro Matthew Makin - Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Annette Morris – Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Niwrowyddorau

Dr Peter Enevoldson – Cyfarwyddwr Meddygol, Canolfan Walton

Dr John Hindle – Ysbyty Cyffredinol Llandudno

 

Ymddiheuriadau:

                  Keith Davies AC – Llafur Cymru

Janet Finch-Saunders AC – y Ceidwadwyr Cymreig

John Griffiths AC – Llafur Cymru

Lesley Griffiths AC – Llafur Cymru

Llŷr Huws Gruffydd AC – Plaid Cymru

Rhun Ap Iorwerth AC – Plaid Cymru

Alun Fred Jones AC – Plaid Cymru

Ann Jones AC – Llafur Cymru

Elin Jones AC - Plaid Cymru

Sandy Mewies AC - Llafur Cymru

Darren Millar AC - y Ceidwadwyr Cymreig

William Powell AC - Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Antoinette Sandbach AC - y Ceidwadwyr Cymreig

Carl Sargeant AC – Llafur Cymru

Ken Skates AC – Llafur Cymru

 

(mae enwau mewn ysgrifen drom yn dynodi aelodau cofrestredig o'r

 Grŵp Trawsbleidiol a anfonodd eu hymddiheuriadau)

 


1.   Cyflwyniadau ac ymddiheuriadau

 

Croesawodd Mark Isherwood bawb i Westy Gwledig Oriel ac aeth drwy'r gweithdrefnau i'w dilyn mewn tân.

 

2.   Cefndir a chyflwyniad i'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol (o safbwynt y sector gwirfoddol)

 

Rhoddodd Kevin Thomas gyflwyniad i Gynghrair Niwrolegol Cymru a rhoddodd safbwynt defnyddiwr gwasanaeth ar y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol.

 

Mae'r Cynllun Cyflawni yn canolbwyntio ar 7 thema:

       Codi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol.

       Diagnosis amserol o gyflyrau niwrolegol.

       Gofal cyflym ac effeithiol.

       Byw gyda chyflwr niwrolegol.

       Plant a Phobl Ifanc

       Gwella gwybodaeth

       Targedu ymchwil

 

Eglurodd Kevin sut roedd Cynghrair Niwrolegol Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru wrth ddrafftio'r cynlluniau ac wedi gwthio am fesurau perfformiad cryfach.

 

Caiff y Cynllun Cyflawni ei oruchwylio gan y Gŵp Gweithredu Niwrolegol Cymru gyfan dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr Meddygol Brwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sef yr Athro Matthew Makin a Chadeirydd Rhwydwaith Niwrowyddorau Gogledd Cymru. Ceir tri lle ar gyfer y sector gwirfoddol, fel bod llais defnyddiwr y gwasanaeth yn cael ei gynrychioli.

 

Rôl sefydliadau cyflwr niwrolegol fydd:

       Sicrhau cyfathrebu dwy ffordd rhwng y lleol a chenedlaethol.

       Sicrhau cyfathrebu rhwng pobl sy'n byw gyda chyflwr niwrolegol a Phwyllgor Gweithredol Cynghrair Niwrolegol Cymru.

       Tynnu sylw at annhegwch daearyddol

       Ymgyrchu.

 

3.   Trosolwg o Rwydwaith Niwrowyddorau Gogledd Cymru a sut mae cynllun gwaith y Rhwydwaith yn gweddu i'r Cynllun Cyflenwi yng Ngogledd Cymru

 

Rhoddodd Annette Morris drosolwg o Rwydwaith Niwrowyddorau Gogledd Cymru.

 

Ym mis Ebrill 2012 sefydlwyd Rhwydwaith Niwrowyddorau Gogledd Cymru yn ffurfiol. Mae'n gymdeithas broffesiynol o gyrff statudol ac anstatudol sy'n cyfrannu at y ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer cleifion yn y gogledd sydd â chyflyrau niwrolegol.  Mae aelodau Bwrdd y Rhwydwaith yn cynnwys y GIG, cynrychiolwyr cleifion a gofalwyr, y Cyngor Iechyd Cymuned, y Sector Gwirfoddol, Gwasanaethau Cymdeithasol, Ymddiriedolaeth GIG Ambiwlans Cymru, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolfan Walton, Prifysgol Bangor, Cynghrair Niwrolegol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Hosbisau Gogledd Cymru, Llywodraeth Leol Gogledd Cymru, Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru, Rhwydwaith Gofal Critigol Gogledd Cymru a Fforwm Strôc Gogledd Cymru.  Mae'r Rhwydwaith yn gweithio'n agos hefyd gydag Ysbyty Clatterbridge, Ysbyty Iarlles Caer, Ysbyty Robert Jones Agnes Hunt yn Gobowen, Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Brenhinol Salford ac Ysbyty Prifysgol Gogledd Swydd Stafford. Mae'r Rhwydwaith yn cwmpasu'r holl wasanaethau ar gyfer oedolion a phlant sydd â chyflyrau niwrolegol. 

 

Mae'r Rhwydwaith yn gweithio'n agos gyda'r arweinwyr polisi ar gyfer niwrowyddorau yn Llywodraeth Cymru a'r Grŵp Trawsbleidiol Cymru Gyfan ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol, a chaiff fewnbwn cryf gan ddefnyddwyr y gwasanaethau a'r Trydydd Sector drwy Gynghrair Niwrolegol Cymru.

 

Esboniodd Annette fod arweiniad clinigol i'r Rhwydwaith a'i fod wedi mabwysiadu dull partneriaeth, system gyfan i'r gwaith o gynllunio, comisiynu a darparu Gwasanaethau Niwrolegol ar gyfer poblogaeth y gogledd.  Mae Bwrdd y Rhwydwaith wedi pennu rhaglen o waith a blaenoriaethau, gan gydnabod na ellir cyflenwi popeth ar yr un pryd. Amlinellodd Annette ffrydiau gwaith allweddol y rhwydwaith ar hyn o bryd.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Fyrddau Iechyd Lleol fynd ati'n uniongyrchol, a thrwy Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC), gomisiynu a darparu gwasanaethau niwrolegol i'w poblogaeth sy'n gymesur â'r angen a aseswyd. Mae Bwrdd y Rhwydwaith yn sicrhau bod y cyfeiriad a gymerwyd wrth ddarparu a datblygu  gwasanaethau niwrowyddorau gan BIPBC er budd y boblogaeth, yn unol â gofynion polisi a chanllawiau cenedlaethol ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Bydd y Rhwydwaith Niwrowyddorau yn adolygu'r asesiad anghenion ac yn deall anghenion y boblogaeth o ran gwasanaethau niwrolegol, a bydd yn cynghori ar y camau angenrheidiol yn y dyfodol i gau'r bwlch yn y gwasanaeth.

 

Eglurodd Annette sut roedd y Rhwydwaith wedi addasu mewn ymateb i'r Cynllun Cyflawni a dangos sut roeddent yn gweithio drwy bob un o'r 7 thema.

 

Eglurodd sut y sefydlwyd Grwpiau Ymgynghorol Clefydau Penodol (DSAGs) ar gyfer epilepsi, Clefyd Niwronau Motor, Sglerosis Ymledol ac Anhwylderau Symudedd, a bod eraill yn cael eu datblygu. Mae'r Grwpiau hyn yn dwyn ynghyd dîm aml-ddisgyblaethol o weithwyr proffesiynol a chynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaeth ac maent yn datblygu atebion ymarferol i broblemau cyflwr-benodol. Mae'r grwpiau hyn wedi trefnu nifer o gynadleddau allweddol i godi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol.

 

Soniodd Annette am y Grŵp newydd Rheoli Meddyginiaethau Rhwydwaith y Niwrowyddorau a sefydlwyd yn ddiweddar a siaradodd am ei rôl yn gweithio gyda'r Grwpiau. Bydd y grŵp hwn yn canolbwyntio ar gyffuriau newydd a ddaw i'r amlwg, effeithiolrwydd a phrotocolau cyffuriau ac ati.  Nod y rhwydwaith yw rhannu arferion da drwy'r amser er mwyn sicrhau gwell canlyniadau iechyd a lles i gleifion.

 

Soniodd Annette am Grŵp Academyddion, Addysg a Gwybodaeth y Rhwydwaith.  Cylch gwaith y grŵp hwn yw cysylltu ymarfer clinigol ag academia a gwaith ymchwil, a gwella addysg, gwybodaeth a rheolaeth yng nghyswllt cyflyrau niwrolegol.  Mae gan y grŵp hwn nifer o gynadleddau allweddol ar y gweill i godi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol a'r agenda ymchwil. Sefydlwyd y grŵp hwn hefyd i lywio trawsnewid y gwasanaeth ac arwain yr agenda urddas a pharch, yr agenda grymuso defnyddwyr gwasanaeth ac arwain ar yr agenda hunanreoli.  Mae aelodaeth yn cynnwys iechyd, y Trydydd Sector, Awdurdodau Lleol, ymgynghorwyr o ganolfannau trydyddol, Cadeirydd y DSAGS. 

 

Yn olaf, siaradodd Annette a Kevin Thomas am eu gobeithion o ran sefydlu Fforwm Defnyddwyr Gwasanaeth Cyflyrau Niwrolegol y Rhwydwaith, hynny yw, os gellir cael cyllid i sicrhau bod llais defnyddiwr y gwasanaeth yn cael ei glywed.

 

 

 

4.   Y diweddaraf o Ganolfan Walton

 

Cyflwynodd Dr Peter Enevoldson ei hun, fel Cyfarwyddwr Meddygol Canolfan Walton a rhoddodd gyflwyniad i'w sefydliad. Mae Canolfan Walton ar Lannau Mersi a dyma'r ganolfan drydyddol agosaf at ogledd Cymru. Mae'n Ymddiriedolaeth Sefydliadol, gyda 17 o aelodau (3 o ogledd Cymru) ar y corff llywodraethu gan fod pobl yn byw yng ngogledd Cymru yn cynrychioli grŵp sylweddol o'i chleientiaid.


Mae Canolfan Walton yn croesawu'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol ac mae'n ei ystyried yn ffordd well o integreiddio gwasanaethau sylfaenol, eilaidd a thrydyddol. Teimlai fod yr amserlenni yn uchelgeisiol iawn ac y byddai'n cymryd 10 mlynedd a chryn fuddsoddiad i'w cyflawni.

Dywedodd Dr Enevoldson wrth y Grŵp Trawsbleidiol fod Canolfan Walton mewn cyfnod o ehangu. Mae wedi tyfu 25-30% yn y 5 mlynedd diwethaf a gwelwyd 100,000 o gleifion allanol y llynedd. Ceir 4 sganiwr MRI ac maent wedi bod yn datblygu clinigau lloeren ar draws gogledd Cymru (Bangor, y Rhyl a Wrecsam) a gogledd-orllewin Lloegr – cyfanswm o 32 o safleodd. Mae canolfan adsefydlu newydd yn agor ym mis Ionawr 2015 ac maent yn treialu telefeddygaeth i Fangor ac Ynys Manaw.

 

5.   Cwestiynau o'r llawr

 

Estynodd Mark Isherwood AC wahoddiad i'r gynulleidfa ofyn cwestiynau am y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol neu unrhyw fater arall.

 

a. Sut y bydd y Grŵp Gweithredu yn monitro cynnydd? Sut y byddant yn dwyn byrddau iechyd i gyfrif?

 

Bydd y Gŵp Gweithredu Cymru gyfan yn dwyn byrddau iechyd i gyfrif yn ei gyfarfodydd chwarterol. Mae gweision sifil ar y grŵp, bydd y Cadeirydd yn rhoi diweddariad chwarterol i Lywodraeth Cymru a bydd adroddiad blynyddol llawn yn olrhain cynnydd y byrddau iechyd.

 

b. Sut caiff gofalwyr eu cefnogi a beth fydd yr effaith ar wasanaethau mewn ardaloedd gwledig? Roedd y rhai a ofynnodd y cwestiynau yn awyddus i ddeall sut y byddai'r cynllun yn cael ei weithredu mewn ardaloedd gwledig fel Meirionnydd a de Conwy, sydd gryn bellter o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth.

 

Dadl yr athro Makin oedd na ddylai'r Cynllun Cyflawni gael ei weithedu ar wahân, a bod angen i'r Bwrdd Iechyd edrych ar sut mae pob gwasanaeth yn cyrraedd y perfeddion gwledig. 'Nid dinas fawr yw gogledd Cymru,' meddai. Mae angen ailgynllunio gwasanaethau fel y gellir cefnogi pobl mor agos i gartref â phosibl.

 

Awgrymodd Dr Hindle fod angen alinio cynlluniau cyflawni Bwrdd Iechyd Powys a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel nad yw pobl yn disgyn drwy'r rhwyd. Cydnabyddir rôl gofalwyr yn yr holl gynlluniau cyflenwi ac ar lefel leol a chenedlaethol, mae angen i sefydliadau feddwl am sut y bydd hyn yn digwydd.

 

Awgrymodd Mark Isherwood AC a Kevin Thomas fod angen cyd-gynhyrchu a bod angen defnyddio'r arbenigedd yn y Grwpiau Rhaglenni Clinigol yn Llanelwy i ddylunio gwasanaethau priodol.

 

c. Sut rydym yn atal cyflyrau yn y lle cyntaf a sut y bydd y cynllun cyflawni yn effeithio ar fywydau go iawn pobl?

Mae gan y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol amcanion tymor byr, canolig a hirdymor, felly mae newidiadau a ddaw i rym yn gymharol gyflym ac sy'n effeithio ar fywydau pobl.

 

Thema 7 o'r cynllun yw Targedu Ymchwil, felly mae ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru a'r Byrddau Iechyd i annog defnyddwyr gwasanaeth a chlinigwyr i gymryd rhan mewn treialon ymchwil sy'n datblygu triniaethau meddygol newydd a allai leddfu symptomau nawr neu arwain, o bosibl, at welliannau tymor hir.

 

Cadarnhaodd Annette Morris fod Rhwydwaith Niwrowyddorau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn buddsoddi mewn addysg a hyfforddiant i wella dealltwriaeth o gyflyrau niwrolegol.

 

ch. Sut mae'r gwasanaethau adsefydlu yn y gogledd yn cysylltu â gwaith y Ganolfan Niwrotherapi yn Saltney neu gyda grwpiau eraill y sector gwirfoddol?

Siaradodd Annette Morris am y cytundeb lefel gwasanaeth presennol gyda'r ganolfan yn Saltney gan fynegi'r awydd i weithio gyda phartneriaid eraill yn y sector gwirfoddol i gysylltu â'u gwasanaethau.

 

d. Beth y mae'r Bwrdd Iechyd yn ei wneud i wella mynediad at wasanaethau ffisiotherapi?

Siaradodd Mark Isherwood AC am ymchwiliad y Grŵp Trawsbleidiol i wasanaethau ffisiotherapi a sut mae elfennau o hyn, bellach, yn cael eu datblygu gan Lywodraeth Cymru.

 

Dadl yr athro Makin oedd bod angen ailgynllunio gwasanaethau fel y gellir cael gafael ar wasanaethau ffisiotherapi a gwasaanethau adsefydlu eraill yn y gymuned.


dd. Pam y gall ysbytai cymunedol gael eu defnyddio yn well? Rhoddwyd enghraifft o ysbyty cyffredinol dosbarth a oedd wedi cael gwared â hen offer campfa yn ystod gwaith ail-addasu, yn hytrach na'i drosglwyddo i ysbyty cymunedol.

 

Ni allai'r panel yn wneud sylwadau am enghraifft benodol, ond roedd yn ymddangos fel pe bai'n tanlinellu awgrym cynharach yr athro Makin bod angen adolygu gwasanaethau ar draws gogledd Cymru.

 

e. Roedd y cwestiwn olaf yn ymwneud ag unigolyn y mae ei gŵr yn byw gyda ffurf o MS sy'n gwaethygu'n raddol, ac a oedd wedi cael profiad gwael gyda'r bwrdd iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol. Roedd hi wedi cael profiad cadarnhaol gyda'r tîm gofal lliniarol, ond cyn hyn, roedd y gwasanaeth hwn wedi bod yn wael.

 

Cytunodd yr athro Makin i edrych ar yr achos, ond awgrymodd fod hyn yn enghraifft o pam mae angen i wasanaethau fod yn aml-ddisgyblaethol, fel y gallai gweithwyr proffesiynol fod un cam ar y blaen i'r cyflwr, yn hytrach nag adweithio'n rhy hwyr. Siaradodd am yr angen i staff fod yn broffesiynol a chwrtais a rhoddodd yr enghraifft o'r cynllun, 'hello, my name is' – hyfforddiant newydd i addysgu staff sut i drin cleifion a gofalwyr.

 

6.   Y camau nesaf a chau'r cyfarfod

Diolchodd Mark Isherwood AC i bawb am ddod ac eglurodd y byddai'r cofnodion yn cael eu teipio a'u dosbarthu i'r cynghreiriau niwrolegol lleol.

 

Cynhelir cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol ddydd Mawrth 10 Chwefror 2015 yn Ystafell Bwyllgora 4, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.